Ucheldiroedd Guiana

Ucheldiroedd Guiana
Mathhighland Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNormandia, Gaiana Edit this on Wikidata
GwladFeneswela, Brasil, Swrinam, Gaiana, Ffrainc, Colombia Edit this on Wikidata
Uwch y môr348 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau5.1433°N 60.7625°W, 4°N 60°W Edit this on Wikidata
Map

Rhanbarth daearyddol a nodwedd ddaearegol yn Ne America yw Ucheldiroedd Guiana neu Tarian Guiana (Sbaeneg: Guayana). Fe'i lleolir yng ngogledd-ddwyrain y cyfandir, ar lan y Caribî deheuol.

Enw arall am y rhanbarth yw 'Guiana' neu 'Y Guianas', am ei fod yn cynnwys tair gwlad o'r enw Guiana, sef Gaiana ('Gaiana Brydeinig' cyn annibyniaeth), Guiana Ffrengig a Swrinam ('Guiana Iseldiraidd' cyn annibyniaeth). Mae'n cynnwys hefyd ran o ogledd Brasil ('Gaiana Bortiwgalaidd' cynt) darnau o Feneswela a Colombia.

Mae gan yr ucheldiroedd ecoleg a daeareg unigryw. Mae'r darian yn dalp anferth o graig gyn-Gambriaidd a ffurfwyd tua 1.7 bilwn o flynyddoedd yn ôl. Mae'n cynnwys Mynydd Roraima, testun sawl chwedl am "Fyd Coll", a Rhaeadrau Angel.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search